2021 Taith Gerdded Treftadaeth Menywod: Llandudno
Diwrnod Rhyngwladol Menywod Hapus!
Gwahoddwyd Amgueddfa ac Oriel Llandudno gan Archif Menywod Cymru i gymryd rhan yn Nheithiau Cerdded Treftadaeth Menywod 2021. Cawsom ein rhyfeddu a’n calonogi gan nifer y menywod arloesol o’r ardal a oedd yn herio’r stereoteipiau arferol. Gobeithiwn ddatblygu’r ymchwil hwn bob blwyddyn gyda rhestr newydd o fenywod o ogledd Cymru sy’n creu hanes.
Awdur: DeAnn Bell
Diolch yn arbennig i Teleri Owen, gwirfoddolwraig a myfyrwraig ddigidol ar leoliad ac i reolwraig Amgueddfa Llandudno, Dawn Lancaster, am helpu i greu’r rhestr gychwynnol ac yna am ddewis o grŵp o fenywod eithriadol o’r ardal hon ar gyfer y llyfryn.
Teithiau Cerdded Treftadaeth Menywod
Croeso i Daith Gerdded Treftadaeth Menywod Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Llandudno ac Archif Menywod Cymru. Mae’r llyfryn hwn yn un o gyfres a gynlluniwyd i hyrwyddo dealltwriaeth o hanes menywod yng Nghymru. Mae hanes menywod yn aml yn guddiedig, wedi’i anwybyddu neu’i esgeuluso. Nod Archif Menywod Cymru yw ail-ddarganfod y menywod hynny sydd wedi lliwio ein hanes ac adfer iddynt eu lle priodol ynddo. Ar gyfer y llyfryn hwn rydym wedi dewis hanesion nifer o fenywod neu grwpiau o fenywod y gellir dweud eu hanes wrth gerdded y llwybr arbennig hwn. Ceir casgliad eclectig o fenywod o bob dosbarth a chefndir. Mwynhewch.