Eisteddfod Fawr Llandudno 1896

by | Sep 8, 2020 | News

Llandudno Museum History

Mae dyddiad Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn agosau a’r gobaith yw y bydd popeth yn barod ar ol misoedd o baratoi gyda nifer o bwyllgorau yn prysur weithio ar y manylion sydd yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn siwr fod Gŵyl o’r maint yma’n llwyddiannus. Disgwyliwn y bydd tyrfaoedd o bob rhan o Gymru a phob rhan o’r byd yn disgyn fel arfer ar Lanrwst a Dyffryn Conwy.
Er bod hanes a thraddodiad yr eisteddfod yn mynd yn ol yn bell yn hanes y Cymry, nid yw’r mudiad eisteddfodol presennol yn hen iawn ac wedi cychwyn o ddifrif yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda man eisteddfodau a’r unig eithriadau yn y gogledd oedd eisteddfodau Conwy a Llandudno. Yng Nghonwy y mabwysiadwyd mesurau barddonol Dafydd ap Edmwnd sy’n dal mewn bod yn eisteddfodau’r presennol. Hefyd mewn pwyllgor bach mewn ystafell yn Neuadd Tref Conwy y pasiwyd y syniad am Eisteddfod Genedlaethol a’r cynllun o gynnal yr Ŵyl yn y Gogledd a’r De bob yn ail. Rhaid cofio hefyd mai yng Nghonwy y dechreuodd y cweryl rhwng Gwilym Cowlyd a’r Eisteddfod Associato, sef corff oedd yn cynnwys llawer o ysgolheigion Cymraeg y cyfnod oedd yn defnyddio mwy o Saesneg na Cymraeg yn eu trafodion. Dyna un rheswm pam fod Gwilym Cowlyd wedi sefydlu ei Arwest Geirionnydd i gystadlu ag eisteddfod swyddogol yr Eisteddfod Associato. Yn awyrgylch y cweryl a’r anghydfod yma y cynhaliwyd Eisteddfod Fawr Llandudno yn y flwyddyn 1896.

Yr oedd Eisteddfod Llandudno yn debyg i eisteddfodau heddiw yn ei phatrwm o gyngherddau a chystadlaethau. Ar y nos Fercher roedd cyngerdd mawreddog gyda Chantata a gyfansoddwyd ar gyfer y Ŵyl, sef ‘Cambria’ gan Dr Joseph Parry a’r libretto gan O M Edwards yn cael ei berfformio gyda cherddorfa Pier Llandudno, Cerddorfa Jules Riviere a chor yr Eisteddfod o 400 o leisiau o dan faton Dr Roland Rogers, arweinydd cerddorol yr eisteddfod.

Dywedwyd yn y rhaglen fod y ‘Royal National Eisteddfod of Wales’, o dan nawdd y frenhines Victoria yn digwydd o ddydd Mawrth, Mehefin 30ain am bum niwrnod tan ddydd Sadwrn, Gorffennaf y 4ydd. Ar y dydd Iau, cynhaliwyd seremoni’r cadeirio, gyda 16 wedi ymgeisio ar y testun ‘Tu hwnt i’r Llen’ gyda awdl neu bryddest. Yr enillydd oedd y Parch Ben Davies o Ystalafera. Ar ol hynny bu cystadleuaeth corau merched a enillwyd gan gor o Birkenhead.

Ar y dydd Gwener, yn y bore roedd seremoni’r Orsedd yn yr Happy Valley lle’r anrhydeddwyd rhai pobl leol – yn eu mysg yr Arglwyddes Augusta Mostyn a gymerodd y teitl ‘Rhian y Gloddaeth’. Anerchwyd yr Orsedd gan y Prifathro John Rhys, Athro Adran Geltaidd Prifysgol Rhydychen. Soniwyd am y ffaith fod tref Llandudno wedi ei henwi ar ol Sant Tudno o’r chweched ganrif. Aeth ymlaen i ddweud fod y seintiau’n dduwol iawn a’r brenhinoedd yn ddrwg iawn a chan fod y seintiau’n gallu ysgrifennu dibynnid arnynt hwy am wybodaeth gynnar am y Cymry. Yn y prynhawn roedd cystadleuaeth a seremoni’r coroni lle roedd 8 yn cystadlu ar y pwnc ‘Arwrgerdd i Lywelyn Fawr’. Y beirniad oedd yr athro John Morris Jones ac fe gafodd y gynulleidfa fawr ei siomi pan glywyd nad oedd neb yn deilwng gan fod y cyfansoddiadau’n brin o ran ysbryd a theimlad tuag at arwriaeth y cymeriad.
Daeth Eisteddfod Frenhinol Llandudno i ben ar y dydd Sadwrn gyda chystadleuaeth Bandiau Pres.

Originally printed in Y Pentan – Written by Stan Wicklen

Llandudno Museum
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.